Wrth i’r nos gau am Ynys Môn fe fydd Elin yn cael cwmni’r derwydd, y technegydd patholegol a’r Frenhines ddrag, Kristoffer Hughes. Fe fydd nifer fawr yn gwybod yn barod am Maggi Noggi – y cyflwynydd lliwgar gyda’r personoliaeth anferth a’r dawn dweud – ond fe ddaw Elin i adnabod y person go iawn tu ôl i’r wigs, y sodlau uchel a’r holl golur. Yng nghwmni tanllwyth o dân fe fydd y chwerthin yn llenwi’r nos a’r dagrau hefyd yn syrthio wrth i Kristoffer siarad o’r galon.
Elin Fflur chats to druid, pathology technician and drag queen Kristoffer Hughes. As the sun sets over Anglesey, they both settle down in front of the fire – and Elin will get to know the person behind the colourful character Maggi Noggi. Be prepared for tears of joy and sorrow as Kristoffer speaks frankly and honest from the heart.